Ein tafod powerpoint
1.
2.
3.
Un diwrnod, pan oedd Jo yn palu’r ardd, fe drawodd ei fforch ynerbyn rhywbeth caled yn y pridd. Fe dyllodd yn ddyfnach a dod o
hyd i hen focs metel. Wedi iddo rwbio’r pridd oddi arno a’i agor,
fe welodd fod 12 darn aur yn y bocs. Fe wyddai, pe byddai’n
dweud wrth Nani y byddai hi’n dweud wrth bawb, a doedd ar Jo
ddim eisiau i bawb ddod i wybod eu busnes. Efallai y byddai
rhywrai yn dod yno i geisio’i berswadio mai nhw oedd piau’r arian.
Felly, penderfynodd Jo ddysgu gwers i Nani. Yn gyntaf, fe
guddiodd y bocs yn ei sied yn yr ardd. Yna fe aeth at yr afon a
dal pysgodyn mawr. Aeth â’r pysgodyn i’w ardd a’i roi rhwng y
rhesi pys. Wedyn fe aeth i’r cae a dal cwningen a’i rhoi yn y rhwyd
bysgota wrth yr afon.
4.
5.
Galwodd ar Nani. ‘Bobol bach !’ meddai. ‘Mae rhywbethrhyfedd yn digwydd yn y lle yma! Edrych, mae pysgod
yn byw ymysg y pys!’ Yna, fe aeth â Nani at yr afon.
‘Edrych,’ meddai ‘Mae cwningen yn byw yn yr afon! Mae
pysgod yn byw ar y tir a chreaduriaid y goedwig yn byw
yn y dwr!’
Allai Nani ddim aros nes cael dweud wrth rywun.
Rhedodd i lawr i’r pentref a dweud wrth bawb a
welodd yno am y pethau rhyfedd oedd yn digwydd.
Daeth rhai pobl i’r bwthyn i weld drostyn nhw’u hunain
ond, wrth gwrs, roedd yr hen Jo wedi symud y
pysgodyn a’r gwningen erbyn hynny. Doedd dim
tystiolaeth, felly doedd neb yn credu stori Nani. Ar ôl
hynny doedden nhw ddim am gredu dim o’i straeon.
6.
Ar ôl peth amser, fe ddywedodd yr hen Jo wrth Nani amy bocs roedd o wedi dod o hyd iddo yn yr ardd, a’r
darnau aur ynddo. Ac fel roedd Jo’n disgwyl, fe aeth
Nani ar ei hunion i’r pentref i ddweud wrth bawb. Ond,
yn naturiol doedd neb yn ei chredu.
‘Diolch byth am hynny,’ meddai Jo. ‘Nawr, fe allwn ni
fyw’n gyfforddus am weddill ein hoes, a fydd neb yn
gwybod ein cyfrinach.’ A dyna beth ddigwyddodd,
wnaeth Nani ddim cario rhagor o straeon am ei bod yn
gwybod erbyn hynny na fyddai neb yn coelio unrhyw
beth a ddywedai. Roedd cynllun yr hen Jo wedi
gweithio.
lingvistics